Mae disgwyl mai Caerdydd fydd un o’r dinasoedd nesaf ym Mhrydain i gael ei chynllun llogi beiciau ei hun.

Mae cyngor y brifddinas wedi rhoi gwahoddiad am dendr i’r cynllun ledled yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o gael darparwr i gyflenwi beiciau, safleoedd docio a chynnal a gweithredu’r cynllun.

Gyda sawl digwyddiad chwaraeon mawr yn dod i’r ddinas y flwyddyn nesaf, gan gynnwys Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr, mae’r Cyngor yn awyddus i gael y system ar waith erbyn gwanwyn nesaf.

Mae’r ddinas yn edrych am noddwr i’r cynllun hefyd, gan nad oes unrhyw fwriad i wario arian cyhoeddus arno.

“Dyma gyfle noddi ardderchog gan y bydd y beiciau, y safleoedd docio a’r terfynfeydd yn weladwy iawn ledled y ddinas ac o’i chwmpas,” meddai Ramesh Patel, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd.

“Mae llwyddiant cynlluniau tebyg mewn dinasoedd eraill yn y DU yn amlwg a’r gobaith yw y bydd trigolion Caerdydd ac ymwelwyr yn defnyddio a mwynhau’r cynllun pan fydd ar waith.”

Lleoli beiciau ledled Caerdydd

Bu cynllun peilot yn 2011, gyda 500 o feiciau wedi’u lleoli yn y ddinas, ond bydd y cynllun newydd yn “llawer mwy” yn ôl y Cynghorydd Ramesh Patel.

“Caiff y rhain (beiciau) eu lleoli mewn nifer o safleoedd sy’n hawdd eu cyrraedd gan gynnwys safleoedd llogi mewn canolfannau dalgylch, prifysgolion, a lleoliadau strategol eraill sy’n agos at y cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus bresennol.”

Y bwriad yw cael contract cychwynnol o bum mlynedd i ddechrau, gydag opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd arall.

Mae’r Cyngor yn gobeithio bydd y cynllun wedi dechrau erbyn mis Ebrill 2017.