Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Heno fydd cyfle olaf tîm pêl droed Cymru i sicrhau ei lle yn rowndiau cynderfynol pencampwriaeth Ewrop 2016.
Mae disgwyl mawr wedi bod am y gêm yn erbyn Rwsia yn Toulouse am 8 o’r gloch, gyda lle yn yr 16 olaf yn y fantol.
Yn dilyn yr ymladd rhwng cefnogwyr Lloegr a Rwsia yn Marseille a Lille, bydd mesurau diogelwch llym heno, gyda’r gêm bellach yn cael ei hystyried yn “berygl uchel” o safbwynt diogelwch.
Bydd dros 600 o blismyn ychwanegol ar strydoedd Toulouse, yn ogystal â’r 1,500 oedd wedi’u dynodi’n wreiddiol.
Dywedodd swyddog diogelwch cenedlaethol Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Wayne Nash, wrth The Sunday Times fod “elfen o nerfusrwydd” am ddiogelwch cefnogwyr yn y gêm.
“Rydym i gyd wedi gweld yr hyn ddigwyddodd ym Marseille. Roedd yn ofnadwy,” meddai.
‘Tynged ein dwylo ni’
Ers y 10 mlynedd diwethaf, dydy Cymru erioed wedi llwyddo i guro’r Rwsiaid yn eu pedair gêm ddiwethaf, ond mae’r garfan yn dweud ei bod yn hyderus am fuddugoliaeth y tro hwn.
“Y cyfan rydym yn ei wybod yw bod ein tynged yn ein dwylo ni, os byddwn yn ennill y gêm, byddwn ni trwyddo, dim ots be sy’n digwydd,” meddai hyfforddwr Cymru, Chris Coleman.
Os byddan nhw’n ennill a Lloegr yn colli i Slofacia yn St Etienne heddiw, bydd y tîm ar y brig o dimau Grŵp B.
Dylai pwynt (gêm gyfartal) sicrhau eu lle yn y rownd nesaf, a hyd yn oed os mai colli bydd hanes y tîm heddiw, mae gobaith y bydd yn dod yn drydydd os bydd y canlyniadau yn ffafriol mewn gemau eraill.
Ond bydd Cymru’n sicr ar ei ffordd adre pe bai’n colli i Rwsia a bod Slofacia yn casglu pwynt o’i gêm yn erbyn Lloegr.
Cadw ffocws
“Mae cymaint o wahanol sefyllfaoedd, allwch chi fynd trwy gyda thri phwynt, ydy pedwar pwynt yn sicrhau eich lle,” ychwanegodd Chris Coleman.
“Os ydych chi’n poeni gormod, byddwch yn colli eich ffocws. Yr hyn sy’n rhaid i ni wneud yw gofalu am ein busnes ein hunain.
“Gwnaethom ni hynny i gyrraedd fan hyn, ac i roi ein hunain mewn sefyllfa i fwrw ymlaen, ac mae’n rhaid i ni wneud yr un peth (yn erbyn Rwsia).”
“Dydy neb am weld y bencampwriaeth yn dod i ben, a dydy hi ddim ar ben i ni eto.”