Mae cyfres o fudiadau iaith ym Mhrydain ac Iwerddon wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd heddiw yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Grwpiau sy’n cefnogi’r Gernyweg, y Sgoteg, yr Aeleg, y Wyddeleg a’r Gymraeg sydd y tu ôl i’r llythyr, dan grŵp ymbarél o ymgyrchwyr iaith Ewrop.

Yn ôl y mudiadau, mae aros yn rhan o’r UE yn bwysig i hybu a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, ac y byddai canlyniad Brexit ddydd Iau yn “drychinebus” i’r ieithoedd hynny.

Er hynny, mae’r ymgyrch Vote Leave Cymru wedi dweud nad oes angen “arweiniad” yr UE ar wleidyddion Cymru a Phrydain i ddiogelu’r iaith Gymraeg.

Awgrymodd hefyd fod y llythyr yn camarwain gwir faint y gefnogaeth sy’n dod i ieithoedd lleiafrifol o’r UE.

Mae’r rhai sydd wedi llofnodir llythyr yn cynnwys Garry Nicholas o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, Dr Gwenllian Lansdown Davies o’r Mudiad Meithrin a Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Petai ein gwledydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn cael ein hamddifadu o’r hawliau a rennir gan ddinasyddion Ewrop,” meddai’r llythyr.

Dywed y byddai’r ieithoedd “ar drugaredd llywodraethau nad ydynt wedi dangos nemor ddim diddordeb nac awydd i amddiffyn nac i hyrwyddo hawliau siaradwyr ieithoedd ein cenhedloedd a’n bröydd.”

Pryder dros golli nawdd ac allfudo

Yn ogystal ag hawliau, mae’r llythyr yn pwysleisio y bydd yn colli unrhyw nawdd posib o Senedd Ewrop ar gyfer prosiectau iaith.

“Y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bod, ac fe all fod eto, yn gadernid ac yn obaith i ieithoedd lleiafrifoledig ein gwledydd.

“Yn anuniongyrchol gallai Brexit effeithio’n drychinebus ar ein hieithoedd. Y mae cyswllt clòs rhwng cynaliadwyedd a hyfywedd parhaol ein hieithoedd ac iechyd economaidd y cymunedau sy’n siarad yr ieithoedd hyn.”

“O’r herwydd, yr ydym ni, fel cynrychiolwyr cymunedau ieithoedd llai yn yr ynysoedd hyn, yn dod i’r casgliad bod rhaid i ni aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau diogelwch a ffyniant ein hieithoedd a’u cymunedau a chyfrannu tuag at ddatblygiad pellach yr Undeb Ewropeaidd.”

Ymateb Vote Leave

Ond yn ôl yr ymgyrch Vote Leave, dydy’r Undeb Ewropeaidd ddim yn diogelu’r ieithoedd hyn cymaint ag y mae’r llythyr yn ei awgrymu.

“Mae ‘na 24 o ieithoedd swyddogol yn yr UE, a dydy’r Gymraeg ddim yn un ohonynt, sy’n dangos y bwlch eang rhwng rhethreg yr ochr aros a realiti’r UE,” meddai Vincent Bailey o Vote Leave Cymru.

“Os yw ein ASEau am ddefnyddio eu hiaith gyntaf yn Senedd Ewrop, mae Llywodraeth Cymru’n cael ei gorfodi i dalu’r gost.

“Er gwaethaf yr argraff mae’r llythyr yn ei roi, doedd ariannu’r iaith Gymraeg heb ddechrau gyda’n haelodaeth o’r UE, ac fe wnaeth gwleidyddion y DU basio Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu sianel Gymraeg, S4C, heb arweiniad yr UE.

“Does dim y fath beth ag arian yr UE, ac y byddai’r arian rydym yn ei gael gan Ewrocratiaid yn cael ei wario’n well gan gynlluniau lleol, wedi’u harwain gan weinidogion Cymru sy’n atebol i bobol Cymru.”

Llofnodwyr y llythyr:

Davyth Hicks, Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN)

Garry Nicholas, Llywydd y Llys, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dòmhnall MacNèill, Comunn na Gàidhlig (Cymdeithas yr Iaith Aeleg)

Loveday Jenkin, Kowethas An Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg)

Maureen Pierce, Kesva An Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg)

Michael Hance, Scots Language Society (Cymdeithas y Sgoteg)

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin

Dr Hywel Glyn Lewis, Cadeirydd Cangen Cymru, Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau

Hanna Medi Merrigan, Llywydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth)

Liam Ó Flannagáin, Comhairle na Gaelscolaíochta (Cyngor Addysg Cyfrwng Gwyddeleg)

Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg