Mae bachgen 11 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberdaugleddau ddydd Sadwrn.

Cafodd y bachgen ei daro gan gar toc cyn 3 o’r gloch y prynhawn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.