Chris Coleman - angen anghofio'r siom (llun y Gymdeithas Bel-droed)
Fe ddywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman y byddai wedi derbyn safle Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw wynebu’r cyfle ola’ i gyrraedd rowndiau 16 ola’ Ewro 2016.
Fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn Rwsia ddydd Llun yn gwneud yn hollol siŵr o hynny ac, yn ôl Coleman, mae eisiau i Gymru ddilyn esiampl Lloegr.
Roedden nhw wedi cael siom ym munudau ola’u gêm gynta’ ond wedi dod yn ôl i guro Cymru – ar ôl siom colli mewn amser ychwanegol, roedd angen i’r Cymry wneud yr un peth, meddai.
‘Allan o’n system’
“Mae yna wastad dair gêm” fel yr eglurodd rheolwr Cymru, Chris Coleman. “Y peryg oedd fod hon yn y canol a phawb yn gweld hi yn frwydr Brydeinig.
“Mae’n rhaid inni ei chael allan o’n sustem, allwn ni ddim cario’r siom gyda ni i’r gêm nesa’.”
Mynnodd unig sgoriwr Cymru, Gareth Bale, hefyd fod Cymru’n dal i “deimlo’n gryf ac yn hapus”.
“R’yn ni’n mwynhau’r profiad ac yn mae un gêm arall i fynd. Dyw’r bencampwriaeth ddim drosodd eto. R’yn ni ynddi hi o hyd ac r’yn ni’n mynd i’r gêm ola’ gyda mwy o gryfder.”
‘Bodlon’
Dull y colli oedd yn anodd, meddai Chris Coleman, gan ddweud cyn dechrau’r bencampwriaeth y byddai wedi bod yn fodlon ar orfod mynd i’r gêm ola’ gyda gobaith o gamu ymlaen.
“Y siom fwya’ ydy ein bod wedi ennill y gem gynta’, a’n bod ar y blaen ar hanner amser yn yr ail gêm,” meddai.
“Mae’r ffordd naethon ni golli yn anodd ei gymryd, ond mae’n rhaid inni ddod dros hynny.”