Bydd yr Arglwydd Neil Kinnock yn dadlau o blaid aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd
Bydd dadl ar le Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd yng Nghaerdydd heno yn canolbwyntio ar effaith yr undeb ar brifysgolion y wlad.
Bydd enwau adnabyddus o’r ddwy ochr yn cymryd rhan yn y ddadl, gyda’r Arglwydd Neil Kinnock, cyn arweinydd y blaid Lafur, ac Ann Beynon, cyn-gyfarwyddwr BT Cymru, yn dadlau’r achos dros aros yn yr UE.
Ar yr ochr arall, fe fydd Neil Hamilton, arweinydd grwp Ukip yn y Cynulliad a’r Athro Howard R Morris, Cadeirydd a Phrif Swyddog Meddygol BioPharmaSec, yn dadlau dros adael ar 23 Mehefin.
Bydd y ddadl yn canolbwyntio’n bennaf ar y rôl y mae’r DU yn ei chwarae o fewn Ewrop, a hynny o bersbectif prifysgolion.
Bydd y ddadl, sy’n cael ei chadeirio gan y newyddiadurwraig ITV, Catrin Haf Jones, yn cael ei chynnal yn y ganolfan wyddonol, Techniquest, ym Mae Caerdydd.
Prifysgol Caerdydd sydd wedi’i threfnu, gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yn dweud bod y bleidlais yn un “pwysig” i’r sector addysg uwch.