Rhun ap Iorwerth AC
Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn yn dweud ei fod yn teimlo’n “rhwystredig” gyda chynlluniau’r Grid Cenedlaethol i fwrw ymlaen â gosod peilonau ar yr ynys i gario trydan o Wylfa Newydd.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’r Grid Cenedlaethol yn gyndyn i wrando ar alwadau pobl leol sy’n galw am osod ceblau dan ddaear fydd yn cysylltu’r orsaf newydd i Is-Orsaf Pentir ger Bangor.
Heddiw, fe gyhoeddodd y Grid Cenedlaethol y byddan nhw’n gosod ceblau tanddaearol o dan Afon Menai.
Ni fydd peilonau yn cael eu codi yn ardaloedd Llanddaniel Fab a Gaerwen ar Ynys Môn, a Bangor ond mae’r Grid Cenedlaethol wedi dweud na fyddan nhw’n ystyried claddu’r ceblau ar draws Ynys Môn.
Nid yw cynlluniau’r Grid i osod peilonau o Wylfa Newydd ger Cemaes, i lawr at Langefni, wedi cael eu hepgor yn gyfan gwbl eto, gyda’r Grid yn dweud y bydd mwy o wybodaeth yn ddiweddarach eleni.
Mae Rhun ap Iorwerth bellach wedi galw am ystyriaeth i roi’r ceblau ar bont newydd yn hytrach na defnyddio peilonau.
Mae’r AC yn dweud y bydd yn trafod y mater gyda’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates.
Ceblau dan ddaear ger y Fenai
“Rwy’n teimlo’n rhwystredig unwaith eto gan amharodrwydd y Grid i wrando ar alwadau am opsiwn gwahanol,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae ein galwadau gwreiddiol am geblau dan ddaear wedi cael eu hepgor gan y Grid. Mae’r opsiwn arall – dan ddaear – yn ddrytach a bydd yn tarfu (ar yr ardal) dros dro, ond mae’r gost yn un dwi’n credu y dylai gael ei thalu er mwyn diogelu buddiannau Ynys Môn.”
Dywedodd na ddylai pobol Môn cael eu “camarwain” gan y Grid, sy’n honni bod rhoi ceblau tanddaearol ger y Fenai yn “gyfaddawd.”
“Roedden nhw o hyd wedi bwriadu gwneud hynny,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Beth am fod yn fwy creadigol, a gwthio am opsiwn lle gall ceblau gael eu gosod ar bont newydd, y gallai’r Grid gyfrannu tuag ato – rwyf eisoes wedi galw am ddyblu (Pont) Britannia. Gall roi ein pennau at ein gilydd helpu.”