Llun: PA
Mae’r ddau Brif Weinidog – David Cameron a Carwyn Jones – yn ymgyrchu gyda’i gilydd yng Nghaerdydd y prynhawn ‘ma, gan annog pobol i bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i’r ddau wneud areithiau, gan osod eu gweledigaeth ar le Cymru fel aelod o’r undeb.
Dyma fydd y tro cyntaf i arweinydd y Blaid Geidwadol ac arweinydd y Blaid Lafur ymgyrchu gyda’i gilydd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymgyrch dros aros, fod hwn yn “gyfle gwych” i’r ddau “amlinellu bod yn rhaid i’r DU aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) er mwyn economi Cymru a theuluoedd Cymru.”
Economi Cymru fydd yn cael y rhan fwyaf o’r sylw heddiw felly, gyda’r ymgyrch dros aros yn dweud bod Cymru’n elwa o fod yn rhan o’r UE yn fwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, mae ymgyrch Brexit yn dweud bod amodau byw teuluoedd cyffredin yn y wlad wedi disgyn ers i Brydain fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.