David Jones AS Llun: Parliament TV
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones wedi dweud wrth golwg360 fod y Canghellor, George Osborne yn “bygwth” pleidleiswyr i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru’n un o 57 o Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd wedi llofnodi llythyr sy’n gwrthwynebu cynlluniau Osborne i gyflwyno Cyllideb frys pe bai Prydain yn penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Fehefin 23.

Yn ôl Osborne, gallai pleidlais tros adael yr Undeb Ewropeaidd olygu bod rhaid gwneud toriadau gwerth £30 biliwn.

Dywedodd Osborne wrth raglen Today ar BBC Radio 4 na fyddai ganddo ddewis ond cyflwyno’r Gyllideb.

‘Torri addewidion maniffesto’

Ond yn ôl David Jones, byddai cyflwyno’r fath fesurau’n gyfystyr â “thorri addewidion maniffesto”.

Dywedodd wrth golwg360: “Yn amlwg, fe fydden ni’n dymuno amddiffyn yr addewidion hynny fel y platfform yr oedden ni wedi’i ddefnyddio i frwydro’r etholiad diwethaf a’r platfform y cawson ni ein hethol o’i herwydd fel llywodraeth.”

Dywedodd fod addewid Llywodraeth Prydain yn cynnwys gwarchod cyllidebau addysg ac iechyd, ynghyd â gosod clo triphlyg ar bensiynau fel y bydden nhw’n codi bob blwyddyn.

Ond mae George Osborne bellach yn awgrymu torri £1 biliwn oddi ar y gyllideb ar gyfer pensiynau.

Ychwanegodd David Jones: “Yn sicr, fydden ni ddim yn fodlon derbyn unrhyw gynigion sy’n arwain at gefnu ar yr addewidion maniffesto hynny.”

‘Colli’r ddadl’

Yn ôl David Jones, mae bwriad George Osborne i gyflwyno Cyllideb frys yn arwydd clir fod yr ymgyrch tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn colli tir.

“Dros yr wythnosau diwethaf, fe welson ni ddatganiadau cynyddol chwerthinllyd yn dod o du’r ymgyrch tros aros, yn fwyaf penodol gan y Canghellor a’r Prif Weinidog.

“Ry’n ni wedi gweld damcaniaethu dirywiad byd-eang, ry’n ni hyd yn oed wedi gweld awgrym y gallai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain at ryfel.

“Ond mae’r diweddaraf o’r rhain yn gyfystyr â bygythiad uniongyrchol yn erbyn yr etholwyr bod goblygiadau pe baen nhw’n pleidleisio dros adael. Does dim rheswm o gwbl pam y dylen nhw ddilyn.”

‘Bygythiad uniongyrchol’

Ychwanegodd mai’r “ffordd normal” o ymateb i ddirywiad yw “lleihau trethi a chynyddu gwariant”, ac nid y gwrthwyneb.

“Mae hwn yn fygythiad uniongyrchol ac rwy’n credu ei fod yn symtomataidd o’r ffaith fod yr ymgyrch tros aros, ar ôl gweld bod cynifer o bolau’n dangos bod Gadael ymhell ar y blaen, yn troi at dactegau eithaf anffodus.

“Y gwir amdani yw fod y Canghellor yn gwybod na fyddai angen y math o fesurau y mae’n eu hawgrymu ac yn sicr, ni fyddai’n gallu eu cyflwyno gan y byddwn i a nifer fawr o’m cydweithwyr yn pleidleisio yn erbyn y fath Gyllideb.”