Mae cynigion Sefydliad Bevan yn cynnwys treth ar siwgr
Mae cynigion ar gyfer cyflwyno trethi unigryw i Gymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw, mewn adroddiad sy’n edrych ar y pwerau newydd i Gynulliad Cymru dan Ddeddf Cymru 2014.

Mae’r felin drafod, y Sefydliad Bevan, wedi cyflwyno cynigion ar gyfer trethi salonau gwelyau haul, treth ar dwristiaeth a threth ar ddatblygu’r gweithlu i geisio gwella sgiliau gweithwyr Cymru.

Byddai’r cynigion hyn, sydd hefyd yn cynnwys treth ar siwgr a threth ar becynnau prydau parod, yn arwain at “Gymru fwy werdd ac iachach ac yn gwella rhannau o economi Cymru” yn ôl y sefydliad.

“Cyfle unigryw” i’r Cynulliad

Yn ôl y Sefydliad Bevan, er bod trethi’n cael eu gweld fel “rhywbeth gwael” gall y trethi newydd hyn newid ymddygiad pobol, a chodi arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

“Rydym yn credu bod Deddf Cymru 2014 yn rhoi cyfle unigryw i’r Cynulliad ddefnyddio trethi ynghyd â deddfwriaeth a pholisi i fynd i’r afael â rhai o’r problemau rydym yn eu hwynebu,” meddai cyfarwyddwr y sefydliad, Victoria Winckler.

“Mae’r tâl am fagiau plastig wedi dangos cymaint o wahaniaeth gall bris ei wneud,” ychwanegodd, gan ddweud bod 70% yn llai o fagiau o’r fath yn cael eu defnyddio erbyn hyn.

Bydd y pwerau trethi cyntaf yn cael eu datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Ymateb yr Ysgrifennydd

Mae’r Ysgrifennydd dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, wedi dweud bod yr adroddiad yn “ddefnyddiol” ac un sy’n “codi ymwybyddiaeth o’r pwerau newydd hyn.”

“Gallai’r pŵer i gyflwyno trethi newydd i Gymru gael ei ddefnyddio i wella bywydau a lles pobol ledled y wlad,” meddai.