Lynette White Llun: Heddlu De Cymru
Mae cyn-dditectifs wedi colli eu hachos sifil am iawndal yn erbyn Heddlu De Cymru yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Roedd y plismyn wedi dwyn achos sifil yn erbyn Heddlu De Cymru ar ôl i lys eu cael yn ddieuog o honiadau o lygredd yn ymwneud ag achos llofruddiaeth Lynette White yn 1988. Daeth yr achos i ben yn sydyn yn 2011.

Cafodd mwy na £30 miliwn o arian trethdalwyr ei wario ar yr achos yn erbyn y cyn-dditectifs cyn i’r achos ddymchwel ar ôl i ddogfennau fynd ar goll.

Roedd y ditectifs yn yr ymchwiliad gwreiddiol, a oedd wedi gwadu unrhyw gamweithredu, wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn Heddlu’r De i wneud cais am iawndal gan honni camweithredu mewn swydd gyhoeddus a charcharu ar gam.

Roedd 15 i gyd wedi gwneud cais am iawndal gan Heddlu’r De, gan honni bod yr heddlu wedi eu hystyried yn euog cyn dechrau’r ymchwiliad.

Ond cafodd eu ceisiadau eu gwrthod gan y Barnwr Mr Ustus Wyn Williams yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth a ddywedodd nad oedden nhw wedi gallu profi’r honiadau.

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r cyn-dditectifs yn “ystyried y posibilrwydd” o gynnal apêl yn erbyn y penderfyniad.

Cefndir

Cafodd achos ei ddwyn yn erbyn wyth cyn-heddwas – Graham Moucher, Thomas Page, Richard Powell, John Seaford, Michael Daniels, Peter Greenwood, Paul Jennings a Paul Stephen – ar gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd yn 1988 pan gafodd tri dyn eu carcharu ar gam.

Fe dreuliodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi ac Anthony Paris bedair blynedd dan glo cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau ar apêl ar ôl i’r dyfarniad gael ei ddiddymu.

Cafodd llofrudd Lynette White, Jeffrey Gafoor, 38, o Lanharan ei garcharu 10 mlynedd yn ddiweddarach.