Ysgol Pendalar, Caernarfon Llun: Gwefan yr ysgol
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod aelod o staff mewn ysgol anghenion arbennig yng Nghaernarfon wedi’i wahardd a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, “gallwn gadarnhau bod aelod o staff ysgol yr awdurdod wedi ei atal o’r gwaith tra bo ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gwblhau.”
“Ni fyddwn yn cynnig unrhyw sylw pellach tra bo’r ymchwiliad yn parhau.”
Eisoes, mae dau aelod o staff wedi’u gwahardd o Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon ym mis Rhagfyr y llynedd gydag ymchwiliadau mewnol yn cael eu cynnal.
Mae Ysgol Pendalar yn ysgol ar gyfer plant gydag anghenion addysgol arbennig rhwng 3 ac 19 oed.