Barics Deepcut yn Surrey lle bu farw pedwar milwr gan gynnwys Cheryl James o Langollen Llun: PA
Ar ôl i grwner benderfynu nad oedd milwr ifanc o Langollen wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon ym marics Deepcut, gall cwest newydd i farwolaeth ail filwr ifanc gael ei gynnal.

Bu farw’r Preifat Sean Benton o bum anaf gwn yn y safle yn Surrey ym mis Mehefin 1995, ychydig fisoedd cyn i Cheryl James farw o anafiadau tebyg yn yr un safle ym mis Tachwedd 1995.

Yn ôl yr ail gwest i’w marwolaeth, fe wnaeth y ferch 18 oed farw o anaf i’w phen ar ôl iddi saethu ei hun yn y barics.

Mae teulu Sean Benton, oedd yn dod o Hastings, yn Essex, bellach wedi cael caniatâd i apelio i’r Uchel Lys am gwest newydd, gan ddisodli’r un gwreiddiol.

Yn ôl ei deulu, roedd y gwrandawiad cyntaf wedi cymryd llai na dwy awr ac wedi clywed tystiolaeth gan chwe pherson, gan ddod at y casgliad bod y dyn 20 oed wedi lladd ei hun.

Fe wnaeth ymchwiliad gan Heddlu Surrey, saith mlynedd yn ddiweddarach, ddod at y casgliad nad oedd neb arall yn gysylltiedig â’i farwolaeth.

Fodd bynnag, mae ei deulu yn dweud bod Sean Benton wedi cael ei fwlio yn y barics cyn iddo farw. Fe oedd y cyntaf o bedwar milwr ifanc a wnaeth farw yn y safle rhwng 1995 a 2002.

‘Siom anferth’ teulu Cheryl James

Roedd ail gwest i farwolaeth Cheryl James wedi clywed tystiolaeth gan fwy na 100 o lygad-dystion dros gyfnod o dri mis, gyda’r crwner yn dyfarnu ei bod wedi saethu ei hun yn fwriadol.

Dywedodd ei theulu, sydd wedi addo parhau â’u brwydr am gyfiawnder, fod y dyfarniad yn “siom anferth”.

 

‘Penderfynol’ o ddod at y gwir

Bu farw mam Sean Benton, Linda, yn 2015, ond mae ei efail, Tony Benton, a’i chwaer Tracy Lewis, yn dweud eu bod yn “benderfynol o ddarganfod beth ddigwyddodd i Sean.”

Geoff Gray, 17,  o ddwyrain Llundain a James Collinson, 17, o Perth, yw’r ddau filwr arall wnaeth farw ym marics Deepcut.

Mae mam Geoff Gray, Diane, hefyd yn ceisio am gwest newydd i farwolaeth ei mab.

Yn dilyn gwrandawiad i farwolaeth Cheryl James, mae Pennaeth y Fyddin, y Cadrifog Syr Nick Carter, wedi dweud y dylai ymchwiliad cyhoeddus i’r barics gael ei gynnal os mai dyna yw’r “ffordd orau” o ganfod y gwir.