Billy Edwards (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent wedi galw am wybodaeth wrth geisio dod o hyd i fachgen 14 oed sydd wedi bod ar goll ers tridiau.

Cafodd Billy Edwards, sy’n byw yn ardal Trefynwy, ei weld diwethaf yn Y Fenni tua 4.20yp ddydd Sadwrn, Mehefin 11.

Mae’r heddlu yn bryderus am ei les, ac yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble y gallai fod i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 429 11/06/16.