Mike Owen (llun: Mike Owen/gwifren PA)
Ymhlith y miloedd o Gymry sy’n mwynhau eu hunain yn Bordeaux heddiw mae cefnogwr ifanc o Wrecsam sy’n teimlo’i hun yn lwcus iawn o gyrraedd yno.

Cyn gynted ag y cwblhaodd ei arholiad AS olaf ddoe, roedd Mike Owen, 17 oed, ar y ffordd i Lundain i ddal awyren i Bordeaux.

Roedd yn benderfynol o gyrraedd Ffrainc mewn pryd i weld y gêm fawr rhwng Cymru a Slofacia ddiwedd y prynhawn yma.

“Ro’n i wedi bod yn gweddïo y byddai fy arholiad olaf yn gorffen cyn i gemau Euro 2016 gychwyn, ac yn lwcus iawn roedd honno ddoe,” meddai.

“Ers imi wybod y dyddiadau, dw i wedi bod yn cyfrif y dyddiau.

“Y peth dw i’n edrych ymlaen ato fwyaf ydi’r siawns i weld ein bechgyn yn chwarae ar y llwyfan mwyaf.”

‘Trydanol’

“A hithau’r gêm gyntaf inni mewn twrnameint mawr ers Cwpan y Byd yn 1958, fe fydd yr awyrgylch yn drydanol. Mae llawer iawn o’n cefnogwyr ni wedi disgwyl am hir am hyn, ac mae’n bwysig ein bod ni’n manteisio i’r eithaf arno.”

Mae yn Bordeaux gyda’i fam, ond mae ei chwaer wedi methu ymuno â nhw oherwydd bod ganddi arholiadau yn y brifysgol.

Dywedodd y bydd yn meddwl yn arbennig am ei dad, a fu farw y llynedd.

“Roedd yn gwirioni ar bêl-droed ac wedi dilyn Cymru ledled Ewrop pan oedd yn tyfu i fyny, ac mi fyddai wedi bod wrth ei fodd i fod yma ar yr achlysur anhygoel hwn.

“Dw i’n siwr y byddai’n falch o’r bechgyn beth bynnag fydd y canlyniad.”