Tarodd Colin Ingram 64 oddi ar 30 o belenni i arwain Morgannwg i fuddugoliaeth o chwe wiced dros Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 ym Mryste nos Wener.

Roedd ei fatiad yn cynnwys pum chwech a phedwar pedwar wrth i’r Cymry gyrraedd eu nod o 169 gydag ychydig dros belawd yn weddill.

Cipiodd Dale Steyn ddwy wiced am 21 a Graham Wagg ddwy wiced am 28 wrth i Forgannwg gyfyngu’r tîm cartref i 168-8 ar noson a gafodd ei heffeithio gan y glaw.

Wrth Ingram arwain y batiad, fe gafodd gefnogaeth y batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald (48 heb fod allan).

Mae Morgannwg bellach wedi ennill tair gêm allan o bedair yn y gystadleuaeth hon.

Dywedodd Aneurin Donald: “Rwy wrth fy modd yn batio gyda Colin Ingram. Mae e’n taro’r bêl allan o’r parc o hyd a’r cyfan sydd angen i fi ei wneud yw ei gwthio hi o gwmpas.

“Mae tipyn o ystadegau sy’n awgrymu os ydych chi’n cipio tair wiced yn y cyfnod clatsio eich bod fel arfer yn ennill yn y pen draw. Chwarae teg i’r bowlwyr am sefydlu’r cyfan i ni’n gynnar.

“Ro’n i wrth fy modd o gael bod yno ar y diwedd. Mae Bryste’n le anodd i ddod iddo ac ry’n ni wrth ein boddau gyda’r canlyniad.”