Waisake Naholo, sgoriwr dau gais (llun o wefan y Crysau Duon)
Seland Newydd 39 Cymru 21

Ar ôl arwain yn yr hanner cynta’, yr hen stori oedd hi wrth i Seland Newydd dynhau eu chwarae a thynhau’r sgriw yn chwarter ola’r gêm.

Dim ond cig gosb gan y maswr Dan Biggar gafodd Cymru wrth i’r Teirw Duon sgorio tri chais, gan gynnwys un ar ôl i’r hwter ganu.

Ac er fod Cymru wedi parhau i bwyso tan y diwedd, yr elfen allweddol oedd gallu Seland Newydd i godi eu gêm a chynyddu’r pwysau ar adegau tyngedfennol.

Stori’r ail hanner

Ar ôl 60 munud, roedd Cymru’n parhau ar y blaen o 18-21 wedi i’r ddwy ochr gyfnewid ciciau cosb.

Ond ar ôl i Liam Williams a’r bachwr Ken Owens gyfuno i atal Naholo rhag cael ei ail gais, fe ddaeth honno’n union wedyn wrth i’r pwysau barhau a Chymru’n cael eu dal yn cysgu gan gic gosb gyflym

Erbyn hynny, roedd  Seland Newydd wedi dechrau eilyddio gan dynhau eu gêm ac, yn fuan ar ôl i Gymru gyflwyno pedwar eilydd – Baldwin yn lle Owens, Rob Evans am Gethin Jenkins, Gareth Amscombe yn lle Liam Williams a Scott Williams yn lle Jamie Roberts – fe arweiniodd pwysau cynyddol at gais i gapten y Crysau Duon, Keiron Reid.

Fe gafodd y ddwy ochr geisiau wedi eu gwrthod wrth i’r chwarae barhau i wibio o un pen i’r llall ac fe ddaeth Cymru’n agos et oar ôl i Scott Williams gicio pêl trwodd a’i dilyn ond doedd dim gorchest bellach i fod.

A’r hwter wedi canu, fe ddaeth pwysau hwyr a’r llinell amddiffyn yn colli ei siâp i adael Nathan Adams trwodd. Gyda chic ardderchog gan Cruden o’r ystlys, roedd hi’n 39-21.