Liam Williams, seren yr hanner cynta' (David Davies/PA)
Seland Newydd 15 Cymru 18

Roedd Cymru ar y blaen ar ôl hanner cynta’r gêm brawf gynta’ yn erbyn Seland Newydd.

Ac fe allai fod wedi bod yn well fyth wrth i’r Cochion ddod o fewn dim i sgorio cais yn y munud ola’.

Fel yr oedd hi, roedd dau gais a dwy gic gosb gan Dan Biggar yn ddigon i roi sgôr o 15-18 i Gymru mewn gêm gyflym agored.

Ar y dechrau cynta’ a hanner y ffordd trwy’r hanner, roedd hi’n edrych fel stori gyfarwydd wrth i’r Teirw Duon ymosod a throi’r sgriw yn gyflym.

Ond y naill ochr a’r llall i hynny, roedd Cymru wedi ymosod yn feiddgar, wedi sgrymio’n gadarn a rhoi pwysau cyson ar Seland Newydd.

Stori’r hanner

Fe ddaeth y ddau gyfle cynta’ i Seland Newydd yn y pum munud cynta’ – Aaron Cruden yn taro’r postyn gydag un gic gosb hir ac wedyn yn trosi un syml o flaen y pyst.

Ond i Gymru y daeth y cais cynta’ ar ôl i Liam Williams lwyddo’n rhyfeddol i gadw’r bêl yn fyw mewn ymosodiad i lawr y chwith a’r chwarae’n ysgubo i’r ochr arall, gyda Goerge North a Hallam Amos yn gwneud lle i’r wythwr, Taulupe Faletau, groesi yn y gornel dde.

Ac yna fe ddaeth y taro’n ôl a Seland Newydd yn codi gêr a thorri trwodd ddwywaith – Julian Savea yn tirio’n hawdd ar ôl cic gan Aaron Cruden ac wedyn Ben Smith yn codi cic flêr a Waisake Naholo’n croesi.

Gyda Cruden yn trosi’r ail gais, roedd y Teirw’n sydyn ddeg pwynt ar y blaen o 15-5.

Cymru’n gorffen gryfa’

Dwy gic gosb gan Dan Biggar a ddaeth  â Chymru’n ôl i’r gêm, gydag un yn dilyn gwaith celfydd gan Faletau a Liam Williams.

Y cefnwr oedd yr arwr eto wrth i Gymru gael eu hail gais – gwrth-ymosod a thorri trwy dacl a’r mewnwr Rhys Webb  yn curo Naholo ar y llinell.

Fe lwyddodd Biggar i drosi i’w gwneud hi’n 15-18 a Chymru a orffennodd gryfa’ gan ddod yn agos at sgorio trwy John Davies a sgrym 5 yn arwain at gyfnod cry’ o ymosod a Chymru o fewn dim i groesi bedair gwaith.