Lloyd Williams (Hazzziii97) a Paul James (Llun y Gweilch)
Y mewnwr, Lloyd Williams, yw’r ail o chwaraewyr Cymru i orfod gadael Seland Newydd heb gydio mewn pêl ar y cae.

Fe fydd chwaraewr y Gleision yn ymuno gyda phrop y Gweilch, Paul James, ar awyren yn ôl i Gymru yn union wedi’r Prawf Cyntaf yn Auckland.

Roedd Williams wedi brifo ei ffêr wrth ymarfer ac mae Paul James wedi cael problemau gyda boch ei goes.

Mae Aled Davies, mewnwr y Scarlets, yn cymryd lle Lloyd Williams ac mae Aaron Jarvis, hefyd o’r Gweilch, wedi cyrraedd i gymryd lle James.

Mae disgwyl i’r ddau ohonyn nhw chwarae yn erbyn tîm rhanbarthol y Chiefs ddydd Mawrth.