Tîm Cymru'n deathly cyrraedd Ewro 2016 fis Hydref y llynedd (llun: Adam Davy/PA)
Dywed Chris Coleman ei fod yn ffyddiog y bydd chwaraewyr Cymru’n codi i’r achlysur yng ngêm agoriadol twrnameint Euro 2016 y prynhawn yma.

Wrth iddyn nhw gamu allan ar y cae i herio Slofacia yn Bordeaux, dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gymryd rhan mewn pencampwriaeth ryngwladol fawr ers 1958.

“Ro’n i’n meddwl na fyddai byth yn digwydd, ond rydym yma a bydd cerdded allan yn rhywbeth arbennig,” meddai Chris Coleman, rheolwr Cymru.

“Dw i’n deall fod gennym tua 25,000 neu 30,000 o gefnogwyr Cymru y tu ôl inni, sy’n anhygoel.

“Ond rhaid inni gofio nad ydym yma am hwyl yn unig.

“Nid dyma’r amser i eistedd yn ôl a mwynhau’r foment – os byddwn yn perfformio, dyna pryd y byddwn yn mwynhau’r foment.”

Pob ffydd yn y chwaraewyr

Er bod Cymru wedi colli tair o’r pedair gêm gyfeillgar ddiweddar, a dod yn gyfartal yn y llall, dywed Coleman nad yw’r tîm llawn wedi bod gyda’i gilydd ers y gêm yn erbyn Andorra yn yr hydref.

“Dyma’r gang a ddaeth â ni i’r twrnameint yn y lle cyntaf, a dyw’r chwaraewyr hyn byth yn ein siomi pan ddaw’r her fawr,” meddai.

“Does gen i ddim pryder o gwbl am y chwaraewyr hyn, dim amheuon, dim ofn, oherwydd dw i’n gwybod beth allan nhw ei wneud.

“Wrth fynd trwodd, roedden nhw’n gweithio’n galed iawn, yn gyson iawn gyda fflach o ddisgleirdeb o bryd i’w gilydd.

“Er ein bod ni yn y twrnameint, mae ein gwerthoedd craidd yn aros yr un fach. Rydym yn dîm anodd i chwarae yn ein herbyn, a dydyn ni ddim yn rhoi dim byd yn hawdd i’r gwrthwynebwyr.”

‘Mwy o angerdd a balchder na’r Saeson’

Wrth edrych ymlaen ymhellach at y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Iau, dywed seren ddisgleiriaf Cymru, Gareth Bale, ei fod yn ysu am herio’r Saeson.

“Maen nhw’n llawn ohonyn nhw’u hunain cyn pob gêm, felly rydan ni am fynd amdanyn nhw a dw i’n credu y gallwn ni eu curo,” meddai.

“I mi, mae’n debyg mai hon yw’r gêm sy’n sefyll allan o blith y gemau grŵp, ond does dim pwysau arnon ni oherwydd maen nhw’n meddwl y gallan nhw ein curo.

“Dw ddim yn gwadu fy mod i’n gwenu pan ddaeth enw Lloegr allan o’r het.

“Fe fydd yn gêm anhygoel i fod yn rhan ynddi, ac fel unrhyw ddarbi, does arnoch chi byth eisiau colli i’r gelyn.

“Dw i’n meddwl fod gynnon ni lawer mwy o angerdd a balchder nag sydd ganddyn nhw. Fe fyddwn ni’n sicr o ddangos hynny ar y diwrnod.”


Gareth Bale yn ymarfer cyn gem Andorra (llun: CBDC/Propaganda)