Nigel Owens
Mae’r dyfarnwr rygbi byd-enwog Nigel Owens wedi cael ei urddo ag MBE yn anrhydeddau penblwydd y Frenhines.

Daw’r cyhoeddiad wrth iddo dorri record heddiw yn dyfarnu’r ornest ryngwladol rhwng Ffiji a Tonga yn Suva.

Hon fydd gêm ryngwladol rhif 71 i Owens, y nifer fwyaf gan unrhyw ddyfarnwr rhyngwladol yn hanes y gêm.

Daeth Owens yn ddyfarnwr rhyngwladol yn 2003 pan oedd yng ngofal y gêm rhwng Portiwgal a Georgia yn Lisbon.

Dau ffigur arall blaenllaw o fyd chwaraeon yng Nghymru i gael eu hanrhydeddu yw’r Athro Laura McAllister, cadeirydd Chwaraeon Cymru, a Dennis Gethin, Llywydd Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r darlledwr Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, a John Gwyndaf Ellis, Is-gadeirydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, hefyd wedi derbyn OBE.

Gwobrwyo derbynnydd

Mae staff Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn llongyfarch derbynnydd yn yr Adran Achosion Brys ar dderbyn BEM yn yr anrhydeddau.

Mae Beti Moyle o Bentraeth wedi rhoi oes o wasanaeth i’r Gwasanaeth Iechyd ers iddi ddechrau gweithio yn Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl yn 1961.  Cafodd ei throsglwyddo i Ogledd Cymru yn 1978 i weithio yn Ysbyty C&A ym Mangor ac mae hi wedi bod yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd ers iddo agor yn 1984.

Dywedodd Meinir Williams, Cyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor: “Rydym wrth ein boddau bod Beti wedi cael gwobr ‘British Empire Medal’ yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni.

“Yn ystod ei gwasanaeth hir yng ggogledd Cymru, mae hi wedi bod yn esiampl eithriadol ac mae ei sgiliau arwain a mentora yn cael eu hefelychu’n llawn wrth fentora staff newydd i’r Bwrdd Iechyd. Mae hi’n drugarog ac yn cyfathrebu’n eithriadol o dda â defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasau. Mae ei pharodrwydd i ddarparu gwasanaeth cyswllt cyntaf arbennig yn cael ei gydnabod gan ei chydweithwyr, rheolwyr, a gan gleifion. Mae hi’n weithiwr gwerthfawr ac yn chwarae rôl hanfodol yn y sefydliad.”