Heddlu Ffrainc yn defnyddio nwy dagrau i ddelio â Saeson trafferthus y tu allan i dafarn y Queen Victoria yn Marseille (llun: PA)
Am yr ail noson yn olynol mae cefnogwyr tîm pêl-droed Lloegr wedi bod yn creu anhrefn ar strydoedd Marseille, lle bu’n rhaid i’r gendarme ddefnydd nwy dagrau i’w gwasgaru.

Mewn rhan o’r ddinas sy’n boblogaidd gyda thwristiaid mae cefnogwyr Lloegr wedi cael eu ffilmio’n taflu poteli ar yr heddlu a thaflu cadeiriau allan o gaffis.

Mae dynion heb eu crysau wedi cael eu ffilmio yn canu caneuon am yr IRA a saethu awyrennau’r Almaen y tu allan i dafarn o’r enw Queen Victoria yn ardal yr hen borthladd.

Mae Saeson, Ffrancwyr a Rwsiaid wedi bod yn ymladd, a chafodd un dyn ei daflu i’r harbwr gan fechgyn lleol.

Fe fydd Lloegr yn chwarae yn erbyn Rwsia yn Stade Velodrome y ddinas heno.