Alec Warburton
Roedd dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei landlord yn Abertawe wedi dweud celwydd fel y gallai ddwyn arian rhent, clywodd llys heddiw.

Fe ymddangosodd David Craig Ellis, 41, yn Llys y Goron Abertawe ar gyhuddiad o ladd Alec Warburton yn ei gartref rhwng mis Gorffennaf ac Awst y llynedd.

Mae Ellis wedi cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddio Alec Warburton, 59 oed.

Yn ôl Christopher Clee QC ar ran yr erlyniad, roedd Ellis wedi ysgrifennu a phrintio llythyron yn gofyn i denantiaid eraill i dalu’r rhent iddo ef tra bod Alec Warburton i ffwrdd yn gofalu am gyfaill oedd yn derfynol wael.

Fe welodd y llys luniau o gamera cylch cyfyng yn dangos Alec Warburton yn fyw ar ôl i’r llythyron gael eu printio, ac mae’r erlyniad yn honni bod y llythyr yn dangos bod Ellis wedi bwriadu llofruddio ei landlord.

Mae Ellis yn honni ei fod wedi lladd Alec Warburton gyda morthwyl ar ol colli ei hunanreolaeth.

Roedd lluniau eraill o gamerâu teledu cylch cyfyng hefyd yn dangos Ellis yn teithio yng nghar Alec Warburton wrth iddo yrru i ogledd Cymru i gael gwared a chorff y landlord mewn chwarel, cyn ffoi i Iwerddon.

Mae’r achos yn parhau.