Y wylan oren, Llun: Ysbyty Bywyd Gwyllt, Tewkesbury,
Cafodd gwylan ei droi’n lliw oren llachar ar ôl iddi syrthio i gafn o chicken tikka masala mewn ffatri gyri rhywle yng Nghymru.

Fe wnaeth yr aderyn syrthio mewn i’r bwyd wrth geisio chwilio am ddarn o gig o fin sbwriel y ffatri ddydd Llun.

Cafodd ei hachub gan weithwyr ar y safle cyn cael ei chludo i Ysbyty Bywyd Gwyllt ger Tewkesbury, Swydd Gaerloyw.

Defnyddiodd staff y ganolfan hylif golchi llestri i lanhau’r wylan ac mae erbyn hyn wedi dychwelyd i’w lliw gwreiddiol, er ei bod yn parhau i ddrewi o gyri.

Dywedodd Lucy Kells, nyrs filfeddygol yn yr ysbyty: “Cafodd pawb yma eu synnu! Dy’n ni erioed wedi gweld dim byd tebyg o’r blaen.

“Ond beth wnaeth ein synnu fwyaf oedd yr arogl. Roedd o wir yn arogli’n dda.”

Mae disgwyl i’r wylan, sydd wedi cael y llysenw Gullfrazie ar Facebook, gael ei rhyddhau i’r gwyllt yn yr wythnosau nesaf.