Yn dilyn y tywydd cynnes diweddar, mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gweld “cynnydd mawr” yn nifer o bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty.

O achos hynny, mae Prif Swyddog Meddygol dros dro Cymru yn annog pobol i ofalu am eu hunain ac osgoi gorboethi wrth fod allan yn yr haul.

“Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobol sy’n ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chyflyrau iechyd yn gysylltiedig â’r galon ac anadlu ac yn sgil hynny, twf yn nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty,” meddai Dr Chris Jones.

Yn ôl Dr Chris Jones, y bobol sydd mewn perygl mwyaf, yw plant a babanod, pobol hŷn a phobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor, fel rhai sydd ar y galon.

“Cadwch allan o’r haul rhwng 11yb a 3yp pan fo’r haul ar ei gryfaf, a defnyddiwch eli haul ffactor uchel. Bydd gwisgo dillad llac, ysgafn a het pan fyddwch chi y tu allan hefyd yn helpu i’ch amddiffyn rhag gorboethi a dioddef o drawiad haul.”

Dŵr yn bwysig

Ychwanegodd fod yfed digon o ddŵr neu sudd ffrwythau yn bwysig, ac osgoi te, coffi neu alcohol.

“Gall cymryd bath neu gawod oer, neu dasgu dŵr oer drosoch chi eich hun neu roi eich arddyrnau o dan dap dŵr oer eich helpu os byddwch yn dechrau gorboethi.

“Peidiwch ag anghofio cadw golwg ar eich ffrindiau, perthnasoedd a chymdogion: mae pobl hŷn a phobl ag anhawster symud yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan y tywydd cynnes.”