San Steffan Llun: PA
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu sylwadau’r Gweinidog Chris Grayling wrth iddo wrthod hawl Aelodau Seneddol i siarad Cymraeg yn y Senedd.
Dywedodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin wrth Aelodau Seneddol heddiw nad yw’n credu y byddai gwario arian trethdalwyr ar adnoddau cyfieithu yn synhwyrol.
Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod hi’n “hawl ddynol sylfaenol” i siarad Cymraeg a bod dadl Chris Grayling yn un “hurt ac yn anwybodus”.
Roedd Chris Grayling yn ymateb i gwestiwn gan yr AS Llafur Chris Bryant a oedd yn awgrymu ei bod hi’n bryd caniatáu’r Gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig er mai Saesneg yw iaith Tŷ’r Cyffredin.
Gwnaeth Chris Grayling ei sylwadau er bod y Gymraeg wedi cael ei defnyddio yng nghyfarfodydd yr Uwch Bwyllgor Cymreig pan mae wedi cyfarfod yng Nghymru ac mae’r Pwyllgor Materion Cymreig hefyd wedi derbyn tystiolaeth yn Gymraeg yn San Steffan.
Meddai Manon Elin: “Mae’n hawl ddynol sylfaenol i siarad Cymraeg, ac mae ei ddadl yn hurt ac yn anwybodus. Mae ef wedi dwyn anfri ar Senedd San Steffan, ei swyddfa a’i Lywodraeth. Bydd pobl Cymru yn clywed ei sylwadau ac yn dod i’r casgliad nad oes ots gan y Llywodraeth am y Gymraeg, iaith fyw hynaf Ewrop.”
Yn ogystal, mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi gofyn cwestiwn ysgrifenedig i Chris Grayling ynghylch y gost o gael gwared â’r gwaharddiad.
‘Siomedig iawn’
Meddai Susan Elan Jones AS, llefarydd Swyddfa Gymreig y Blaid Lafur, ei bod hi’n
siomedig iawn bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cais Llafur i ddefnyddio’r Gymraeg mewn rhai dadleuon yn San Steffan.
Ychwanegodd bod yr honiad y byddai caniatáu’r Gymraeg i gael ei defnyddio’n gostus yn “gwbl anghywir”.
Meddai Susan Elan Jones AS: “Mae’r Llywodraeth yma yn honni ei bod hi yn parchu amrywioldeb, felly pam na allen nhw barchu statws cyfartal ein dwy iaith swyddogol a’r bobl sydd yn defnyddio’r ieithoedd yna?
“Mae sawl senedd ar draws y byd yn defnyddio mwy nag un iaith, gan gynnwys ein Cynulliad Cenedlaethol. Rydym ni ond yn gofyn i Aelodau Seneddol Cymreig allu defnyddio dwy iaith Cymru pan ydym yn cwrdd i drafod materion Cymreig pwysig yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig.
“Mae’r honiad y byddai hyn yn gostus iawn yn gwbl anghywir oherwydd bod gan Senedd San Steffan systemau cyfieithu sydd yn cael eu defnyddio pan rydym ni yn croesawu gwesteion o dramor. Mae’r cais yma wedi ennill cefnogaeth pob Aelod Seneddol Cymreig Llafur a byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i newid meddwl.”