(Llun: Ben Birchall/PA)
Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon fod Llywodraeth y DU am daro bargen ddirgel frys gyda Tata yn hytrach na cheisio ateb hir-dymor hyfyw i achub dyfodol y diwydiant dur.
Mae llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi a Chyllid, Adam Price, yn rhybuddio ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU eisiau cyrraedd cytundeb am weithfeydd dur Tata cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar 23 Mehefin, yn hytrach na cheisio’r hyn fyddai o fudd yn yr hir-dymor i Gymru.
Meddai Adam Price AC: “Y sôn yw fod Llywodraeth y DU yn rhoi pwysau enfawr ar Tata i newid eu penderfyniad i werthu eu hasedau yn y DU yn gyfnewid am hepgor eu hatebolrwydd am ddiffyg y gronfa bensiwn a benthyciad o £900m.”
Dywedodd Adam Price fod dewis lleol, gwell ar gael, sef cais i brynu asedau dan arweiniad y rheolwyr a allai gynnig mwy o sicrwydd hir-dymor i’r gweithwyr o ran eu swyddi.
Meddai: “Ni ddylem ni yng Nghymru roi’r allweddi’n ôl yn nwylo’r un rhai a wnaeth y penderfyniadau, gan anwybyddu prynwyr lleol, pan fo gwell dewisiadau ar gael.
“Ers tro byd, lleisiodd Plaid Cymru bryderon ynghylch a fyddai Tata yn cadw eu hasedau yng Nghymru, a daeth yn glir heddiw fod aelodau o lawer plaid wleidyddol yn rhannu’r pryderon hynny. Ni ddylai Llywodraeth y DU geisio bargeinion dirgel ar draul rhoi anghenion Cymru gyntaf.”
Fe gyhoeddodd cwmni Tata yn gynharach eleni ei fod yn gwerthu ei holl asedau yn y DU gan gynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot sy’n cyflogi 4,000 o weithwyr.
Ond mae na ddyfalu na fydd Tata yn gwerthu’r busnes yn y DU wedi’r cyfan ac mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu y bydden nhw’n fodlon camu i mewn er mwyn newid cynllun pensiwn y cwmni i hwyluso cytundeb i werthu’r busnes.