Bad achub
Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) wedi rhybuddio pobol ynglŷn â pheryglon y môr  ar ôl i 20 o bobol farw ar arfordir Cymru’r llynedd.

Mae ymgyrch yr elusen, Parchwch y dŵr, sy’n gobeithio haneru nifer y marwolaethau arfordirol erbyn  2024, wedi’i anelu at ddynion yn bennaf, gan fod dros dri chwarter o’r rhai sy’n marw yn ddynion.

Rhwng 2011 a 2014, roedd 75% o achosion o’r fath yn ddynion, ac yn 2015, cododd y ffigwr hynny i 85%, sef 17 o’r 20 o farwolaethau.

Ac roedd bron i hanner o’r rhain, 45%, ddim wedi bwriadu mynd i’r dŵr o gwbl, gydag achosion lle cafodd pobl eu  hysgubo i’r môr gan donnau mawr.

Mae rhybudd hefyd i bobol sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded a rhedeg ar hyd yr arfordir, a oedd wedi cyfrannu at 20% o’r marwolaethau.

Roedd 30% o’r marwolaethau yn cynnwys gweithgareddau fel neidio i mewn i’r dŵr yng Nghymru.

‘Dŵr oer yn gallu lladd’

“Rydym yn rhybuddio pobol i gadw draw o ochrau clogwyni lle mae’r tir yn llithrig neu’n anwastad; arhoswch ar lwybrau wedi’u marcio a chadwch lygad ar y dŵr – edrychwch am donnau annisgwyl sy’n gallu eich dal a’ch ysgubo i’r dŵr,” meddai  Nicola Davies o’r RNLI.

“Rydym yn colli tua 19 o fywydau ger arfordir Cymru bob blwyddyn a thrasiedi fwyaf y sefyllfa yw y gallai llawer o farwolaethau gael eu hatal.

“Mae dŵr oer yn gallu lladd. Dydy pobol ddim yn sylweddoli mor oer gall ein moroedd fod – hyd yn oed ym misoedd yr haf, dydy tymheredd y môr ddim fel arfer yn codi’n uwch na 12C, sy’n ddigon isel i achosi sioc.”

Ychwanegodd y gallai mynd i’r dŵr yn sydyn achosi i rywun fynd allan o wynt, gan dynnu dŵr i’r ysgyfaint ac achosi rhywun i ddechrau boddi.

“Os byddwch yn meddwl mynd i’r dŵr, byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed os yw’r môr yn edrych yn dawel, gall fod cerhyntau cryf o dan yr arwyneb sy’n gallu eich llusgo’n gyflym ymhellach i’r môr.”

Eleni, fe welodd y DU y nifer uchaf o farwolaethau arfordirol ers pum mlynedd, gyda 168 o fywydau yn cael eu colli.