Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw beiciwr fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llanbradach, Caerffili ddoe.

Bu farw Dan Heyes, 21 oed, o  Ystrad Mynach ar ôl bod mewn gwrthdrawiad a fan wen Volkswagen ar ffordd yr A469, ger Llanbradach tua 2yb bore Mercher, 8 Mehefin.

Bu farw Dan Heyes yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio’r heddlu ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod  30 08/06/16.