Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael dirwy o £150,000 ar ôl i swyddog anfon e-bost drwy gamgymeriad at aelod o’r cyhoedd.
Roedd y neges yn cynnwys manylion personol am wyth troseddwr rhyw ym Mhowys, gan gynnwys eu henwau, eu cyfeiriadau, eu rhifau ffôn a’u cyfeiriadau e-bost.
Cafodd y person y negeseuon am ei fod wedi cael ei gynnwys drwy gamgymeriad mewn neges grŵp fewnol gyda’r heddlu.
Dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Ebrill 2015, derbyniodd y person bum e-bost oedd ar gyfer pobol eraill.
“Tra bod hyn ar yr olwg gyntaf i weld fel camgymeriad syml, cafodd ei wneud drwy weithdrefnau gwan yr heddlu ynghylch diogelu data personol pobol,” meddai Anne Jones, Dirprwy Gomisiynydd dros Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru.
“Mae hon yn stori sy’n codi pryder, ac un fydd ddim yn darbwyllo’r gymuned leol bod hwn yn heddlu y gallan nhw ymddiried ynddo i ofalu am wybodaeth sensitif.”
‘Camgymeriad oedd yn mynd i ddigwydd’
Cafodd y person ei gynnwys yn y negeseuon ar ôl i swyddog ddewis yr enw anghywir yn rhestr electronig o gysylltiadau’r heddlu.
Roedd y rhestr i fod i gynnwys cyfeiriadau e-bost mewnol yn unig, ond roedd wedi cynyddu i gynnwys cyfeiriadau pobol o du hwnt i’r sefydliad.
“Roedd hwn yn gamgymeriad oedd yn mynd i ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach,” ychwanegodd Anne Jones.
“Fe wnaeth yr heddlu fethu â chymryd mantais o gyfleoedd cynt i fynd i’r afael â’r broblem, ac mae bellach yn wynebu’r goblygiadau.”
Ymateb Dyfed-Powys
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae’n gweithio’n galed i sicrhau bod data’n cael ei gadw’n gyfrinachol.
Dywedodd y Dirprwy Prif Gwnstabl Dros Dro, Liane James, eu bod yn “derbyn y camgymeriadau gwnaethom.”
“Rydym wedi gweithredu i wneud y newidiadau angenrheidiol i brosesau a systemau. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau diogelwch y data sydd ar gael i ni a byddwn yn parhau i ddysgu o hyn.”