Mae beiciwr 22 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A469, ger Llanbradach, Caerffili.

Digwyddodd am tua 2 o’r gloch fore dydd Mercher, 8 Mehefin, ar ffordd osgoi Llanbradach, tuag at y gogledd.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng fan wen Volkswagen a’r beiciwr.

Bu farw’r dyn 22 oed, ar safle’r gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio’r heddlu ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod  30 0f 08/06/16.