Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhenllergaer, Abertawe bnawn ddoe.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger cyffordd Parc Penllergaer am 5.25yp ddydd Mawrth, 7 Mehefin ar ôl i gerbyd Dacia Sandero gwyn wyro oddi ar y ffordd a tharo yn erbyn wal.

Bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle. Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbyd yn cael ei yrru cyn y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1600210204.neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111