Carfan tim pel-droed Cymru yn cwrdd a Carwyn Jones
Dim ond un ymhob deg o gefnogwyr pêl-droed Cymru sy’n credu y gall Cymru gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth sy’n dechrau’r wythnos hon.

Yn ogystal, dim ond 5% sy’n meiddio dychmygu y gallai’r tîm cenedlaethol ennill y bencampwriaeth gyfan.

Dyna ganfyddiadau arolwg newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ar ran y Co-op wrth i 3,000 o oedolion gymryd rhan ynddo.

Mae’r arolwg hefyd yn amlygu mai dim ond un ymhob 20 o bobol Prydain sy’n credu y bydd un o’i chenhedloedd cartref yn ennill y bencampwriaeth.

Mae 11% o gefnogwyr Gogledd Iwerddon yn credu y gall eu tîm nhw gyrraedd y rowndiau terfynol a 6% yn credu y gallan nhw ennill y bencampwriaeth gyfan.

Ond, dim ond 8% o gefnogwyr Lloegr oedd yn credu y gallai Lloegr gyrraedd y rowndiau terfynol a 4% yn unig yn tybio y gallent ei hennill.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos fod un rhan o bump yn credu y gall Andy Murray gyrraedd rownd derfynol Wimbledon, 11% yn credu y bydd enillydd cartref yn y Golff Agored a 20% yn disgwyl gweld car rasio Prydeinig yn Silverstone.