Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio apêl yn gofyn i ddeintyddion eu helpu i adnabod dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw yng Nghoedwig Clocaenog, ger Cerrigydrudion, y llynedd.
Mae’n debyg bod y dyn, a oedd dros 54 oed adeg ei farwolaeth, wedi cael llawer o waith deintyddol, gyda’r gwaith hwnnw wedi digwydd rhwng 1980 a 2000.
Dydy’r flwyddyn y buodd farw ddim yn glir eto ond mae’n debygol ei bod ar ôl 2000, gan mai’r gred yw ei fod yn gwisgo siwmper werdd Pringle cyn iddo farw, a gafodd ei gwneud rhwng 2000 a 2004.
Mae’r apêl wedi’u hanelu at bob deintydd yn y DU, gyda’r gobaith y bydd rhywun yn adnabod ei waith deintyddol ei hun.
‘Achos amheus’
Pan gafodd ei ddarganfod yn y goedwig ger Llyn Brenig ym mis Tachwedd y llynedd, roedd profion yn dangos ei fod wedi dioddef trawma i’r pen, ac mae’r heddlu yn trin yr achos fel un amheus.
Mae profion DNA yn dangos bod y dyn rhwng 5”8 a 5”11 ac yn debygol o fod yn hŷn na 54 oed, ond does dim cysylltiad wedi gwneud â’i DNA ag un o’r rhestr o bobol sydd ar goll yn y DU.
Y Ditectif
Bydd yr apêl yn ymddangos ar y sgrin deledu heno, yn rhaglen ‘Y Ditectif’ ar S4C, lle fydd y cyflwynydd, Mali Harries, o gyfres Y Gwyll, yn cyfweld â’r gwyddonydd fforensig, Dr John Rosie.
Yn ôl Dr Rosie, mae’n ddigon posib y gall natur unigryw’r gwaith dannedd arwain at adnabod y corff, gan fod y dyn wedi “mynd i drafferth” i gael llawer o waith o “ansawdd uchel iawn.”
“Doedd e heb gael gwaith deintyddol yn y gorffennol ac roedd wedi colli pob un o’i gilddannedd ac un o’i uwch gilddannedd blaen,” meddai.