Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, (Llun: Gwefan Alun Cairns)
Cyflwyno Mesur Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw yw’r “cam nesaf” ar daith ddatganoli Cymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns.

Ar ôl misoedd o ddadlau rhwng gwleidyddion Bae Caerdydd a San Steffan, mae’r mesur wedi cael ei gyflwyno, gyda Chynulliad Cymru yn cael statws Senedd am y tro cyntaf.

Mae bellach gan wleidyddion Cymru mwy o bwerau wrth i bumed tymor y Cynulliad ddechrau yn swyddogol heddiw.

Gall Lywodraeth Cymru bellach ddeddfu ar dreth incwm, cyfyngiadau cyflymder, ffracio, porthladdoedd ac etholiadau, gyda’r hawl i newid yr oedran pleidleisio o 18 i 16 oed.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod y ddeddfwriaeth yn “garreg filltir” i Gymru, gan roi “mwy o resymau nag erioed” i bobol y wlad ymwneud â’r broses ddemocrataidd.

‘Senedd gref ac aeddfed’

Dyma fesur sydd yn golygu bod gan Gymru “Senedd ddatganoledig gref ac aeddfed”, yn ôl Alun Cairns, sydd hefyd yn dweud bod y sefydliad yn fwy “atebol” i bobol Cymru bellach.

“Gyda’i threftadaeth unigryw a thraddodiadau radical balch, mae Cymru yn gadarn ar y llwybr tuag at sicrhau Senedd ddatganoledig gref ac aeddfed. Y Mesur heddiw yw’r cam nesaf ar y daith honno,” meddai.

“Mae dynion a merched Cymru am gael deddfwriaeth synhwyrol sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau ac yn eu galluogi i fyw dan gyfreithiau o’u dewis nhw. Rwyf wedi clywed y cyfarwyddyd uchel a chlir hwnnw, a byddaf yn cyflawni hyn.”

Bydd ailddarlleniad Mesur Cymru yn digwydd yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae golwg360 yn deall bod disgwyl iddo gael ei basio’n swyddogol cyn mis Ebrill 2017.

Plaid Cymru: ‘Galw am ddiwygio ymhellach’

Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, Hywel Williams, ei fod yn croesawu’r Mesur ond y bydd y blaid yn ceisio ei ddiwygio ymhellach.

“Bydd Plaid Cymru yn ceisio diwygio’r Mesur i sicrhau bod pobol Cymru yn cael eu trin â’r un parch â phobol yr Alban a gobeithiwn y bydd pleidiau eraill yn ein dilyn drwy gefnogi ein gwelliannau yn y Senedd a’n cynigion yn y Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.

‘Trawsnewid’ gwleidyddiaeth Cymru

Roedd croeso i’r Mesur gan y Ceidwadwyr Cymreig, gyda’i harweinydd yn dweud ei fod yn “garreg filltir” i hanes datganoli yng Nghymru.

Dywedodd Andrew RT Davies y bydd yn “trawsnewid pensaernïaeth gyfansoddiadol” Cymru, fel darn o ddeddfwriaeth “barhaus”, sy’n “fwy atebol.”

“Mae’r model pwerau cadw yn ôl yn drobwynt i wleidyddiaeth Cymru ac yn hollbwysig, bydd yn rhoi mwy o resymau nag erioed i bleidleiswyr ymwneud â’r broses ddemocrataidd,” meddai.

“Mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn edrych ymlaen at weithio’n agos ac yn adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Mesur yn cyflawni setliad datganoli parhaus sy’n cyflawni dros Gymru, ac un gall ein gwlad fod yn falch ohono.”

Roedd croeso i’r Mesur hefyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Llafur, Nia Griffith, a ddywedodd ei bod yn “falch bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrando ar y feirniadaeth” a gafodd ei gwneud am y fersiwn ddrafft.

“Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnes i hi’n glir na fyddai Llafur yn cefnogi mesur oedd yn tynnu pwerau o Gymru a’i wneud yn anoddach i’n Cynulliad gyflawni ei rôl,” meddai.

“Rwy’n falch bod Ysgrifennydd Cymru wedi gwrando ar y feirniadaeth a gafodd ei gwneud ar fersiwn ddrafft Mesur Cymru ac wedi cyflwyno darn newydd o ddeddfwriaeth.

“Rydym i gyd am weld setliad datganoli i Gymru sy’n glir, yn ymarferol ac yn barhaus. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y mesur hwn yn ein galluogi i gyflawni’r nodau hynny.”