Mae trigolion ardal Conwy yn cael eu cynghori i gadw eu ffenestri ar gau, wrth i ddiffoddwyr tân barhau i geisio rheoli tân gwair mawr ar fynydd Allt Wen yn Nwygyfylchi, Penmaenmawr.
Yn ôl llygad-dystion, mae fflamau a mwg y tân, a ddechreuodd nos Sadwrn, i’w gweld o ffordd yr A55.
Mae gwasanaethau tân Bae Colwyn, Llandudno, Abergele, Conwy, Dinbych, Bangor a Llanrwst wedi’u galw i helpu i ddiffodd y tân.
Y cyngor ar hyn o bryd i bobol yr ardal yw cadw eu ffenestri a’u drysau ynghau, er mwyn atal mwg rhag dod i mewn i’w tai.