Bydd cyfarfod arbennig heno o Gyngor Tref Bae Colwyn i drafod y prinder meddygon teulu sydd yn yr ardal.

Mae meddygon wedi cael gwahoddiad gan y Cyngor i fynd i’r cyfarfod llawn a hynny ar ôl iddo weld llythyr gan un feddygfa yn mynegi’r pwysau cynyddol sydd ar feddygfeydd lleol oherwydd prinder doctoriaid.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor Tref, mae’r gwahoddiad wedi mynd at tua chwe meddygfa “i weld a yw’r broblem yn un cyffredin.”

Meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy yw’r diweddaraf o feddygfeydd y gogledd i gyhoeddi y bydd yn cau ei drysau ym mis Hydref oherwydd pwysau gwaith.

Mewn llythyr agored at 3,770 o’u cleifion, dywedodd Dr Catherine Hindle a Dr Rebecca Smith nad oedden nhw’n gallu “parhau i weithio oriau hir – tua 12 awr y dydd”.

“Problem fawr”

Dywedodd Dr Catherine Hindle a Dr Rebecca Smith fod recriwtio meddygon teulu yn “broblem fawr i ogledd Cymru.”

“Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn llwyth gwaith meddygon teulu, yn dilyn symud nifer o wasanaethau o ysbytai i ofal cynradd, sydd heb gael cyllid y byddai wedi’n galluogi i dalu premiwm i recriwtio meddygon a nyrsys ychwanegol,” meddai’r ddwy yn eu llythyr.

Mae’r cam hwn yn dilyn penderfyniadau tebyg gan feddygon teulu ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Wrecsam, Glan Conwy a Blaenau Ffestiniog.

‘Derbyn yr her’

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol ei bod yn “derbyn yr her” sydd o recriwtio meddygon teulu mewn rhai rhannau o Gymru ond bod “cynnydd o 8%” wedi bod yn y nifer ers 2005.

Dywedodd hefyd eu bod yn cynnig pecyn o gymorth ar gyfer meddygfeydd sy’n wynebu’r posibilrwydd o gau ac yn cydweithio i “adnabod a goresgyn unrhyw rwystrau wrth recriwtio a datblygu ffyrdd newydd i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol.”

‘Cefnogaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd:  “Er nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn gwahoddiad i’r cyfarfod, rydym wedi cysylltu â Chlerc y Dref ac wedi cynnig mynychu.  Nid oedd y clerc yn teimlo ei bod hi’n angenrheidiol ar hyn o bryd gan mai cyfarfod yn unig â meddygfeydd Bae Colwyn oedd y Cynghorwyr eisiau, er mwyn deall a oes unrhyw faterion recriwtio penodol iddynt.

“Mae hwn yn eitem agenda o’r cyfarfod misol arferol ac nid yw wedi ei drefnu yn benodol ar gyfer yr eitem hon.   Rydym wedi estyn ein cynnig i fynychu cyfarfodydd y dyfodol gyda Chyngor y Dref.

“Mae BIPBC yn darparu arweiniad a chefnogaeth i bob meddygfa ar draws Gogledd Cymru.  Lle mae pryderon penodol yn cael eu codi, mae’r rhain yn cael eu hystyried gyda’r meddygfeydd a chytunir ar gamau gweithredu.

“Mae hyn wedi cynnwys darparu cefnogaeth drwy wasanaethau ychwanegol a fydd yn helpu i leddfu pwysau a brofir a chefnogaeth i wneud gwelliannau i adeiladau.”