Aaron Ramsey yn dweud bod mwy i ddod gan y tîm
Mae Aaron Ramsey wedi dweud na fydd tîm pêl-droed Cymru’n “hunanfoddhaus” ar ôl cyrraedd Ffrainc ar gyfer cystadleuaeth Ewro 2016.
Cafodd y tîm ergyd yn Stockholm ddydd Sul wrth iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn Sweden yn eu gêm olaf cyn dechrau’r gystadleuaeth.
Mae’r rheolwr Chris Coleman wedi awgrymu y gallai’r demtasiwn o orffwys ar eu rhwyfau effeithio’i dîm pan fydd y twrnament yn dechrau ar Fehefin 11.
Ond yn ôl Ramsey, mae’r ysbryd yn y garfan yn golygu y byddan nhw’n parhau i frwydro i weld pa mor bell y gallan nhw fynd yn y twrnament.
Dywedodd Ramsey: “Dw i’n credu ei fod o gymorth ein bod ni wedi bod gyda’n gilydd ers cyhyd.
“Yn sicr, ry’n ni’n benderfynol o frwydro a gweithio’n galed dros ein gilydd. Mae hynny’n sylfaen dda i ni.
“Efallai mai dyna pam na wnaethon ni ildio llawer o goliau yn ystod yr ymgyrch [y gemau rhagbrofol]. Ar y cyfan, mae’n anodd ein torri ni i lawr a gallwn ni roi loes i dimau hefyd.”
‘Ymroi’n llwyr’
Dywed Ramsey ei fod yn barod i ymroi’n llwyr wrth iddo gamu i’r cae yn Ffrainc wrth i Gymru herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yng Ngrŵp B.
“Dw i’n mwynhau fy hun. Mae gyda ni dîm da yma. Pryd bynnag y’ch chi’n gwisgo’r crys i chwarae dros eich gwlad, ry’ch chi’n ymroi’n llwyr. Dw i’r un fath. Dw i’n rhoi popeth iddi bob tro dw i’n chwarae dros fy ngwlad.”
Mae’n cyfaddef ei fod yn chwaraewr rhif 10 naturiol a bod chwarae mor ddwfn yn yr ymosod ochr yn ochr â Gareth Bale yn helpu ei gêm ei hun.
“Mae’n fy nghael i’n uwch i fyny’r cae lle dw i’n hoffi bod. Mae’n fy nghael i mewn safleoedd lle galla i fod yn beryglus a rhoi loes i dimau.
“Gyda Gareth [Bale] yn rhif 10 hefyd, mae’n braf gallu cyfuno â fe. Dw i’n credu bod hynny’n fy siwtio i’n well [na bod yng nghanol y cae].”
Dychwelyd i Arsenal
Pan fydd Ramsey yn dychwelyd i Arsenal ar ddiwedd y gystadleuaeth, mae’n dweud y bydd yn deimlad braf cael bod yn un o blith nifer sylweddol o chwaraewyr sydd wedi cael cynrychioli eu gwlad yn un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol.
“Pan ddechreuodd yr ymgyrch ac wrth i ni ennill cwpwl o weithiau, ro’n i’n tynnu coes y bois, ac yn dweud ‘Wela’i di yn Ffrainc’.
“Roedd y ffordd roedd pethau’n datblygu tua’r diwedd yn edrych yn addawol.
“Roedd cael cyrraedd o’r diwedd yn wych, a chael mynd i mewn ac edrych ymlaen at chwarae yn y rowndiau terfynol. Galla i rannu’r profiad hwnnw nawr gyda rhai o’r chwaraewyr sydd wedi gwneud hynny.”
‘Mwy i’w gyflawni eto’
I Ramsey, dydy cyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc ddim yn ddigon, ac mae’n credu y gall y tîm ddatblygu ymhellach yn ystod y twrnament.
“Dw i’n credu bod y grŵp hwn o chwaraewyr yn ddigon doeth i wybod nad ydyn ni jyst am fynd yno a chredu ein bod ni wedi cyflawni’r cyfan.
“Mae mwy i ddod gan y tîm yma. Mae gyda ni grŵp da o chwaraewyr, chwaraewyr sydd wedi ennill pethau i’w clybiau a chwaraewyr o safon sy’n chwarae ar y lefel uchaf bob wythnos.
“Ry’n ni am fynd yno a phrofi pwynt. Fydd ein chwaraewyr ni ddim yn hunanfoddhaus.”
Mae ymgyrch Cymru’n dechrau yn Bordeaux wrth iddyn nhw herio Slofacia ar Fehefin 11.