Siom i dîm Chris Coleman yn Stockholm
Mae Cymru wedi colli o 3-0 yn erbyn Sweden yn Stockholm yn eu gêm olaf cyn dechrau cystadleuaeth Ewro 2016.

Aeth Sweden ar y blaen drwy seren y gêm, Emil Forsberg wedi 40 munud a felly arhosodd hi tan hanner amser.

Gwnaeth Sweden ymestyn eu mantais oddi ar gic gornel ar ôl 57 munud diolch i Mikael Lustig, ac fe darodd John Guidetti ergyd hwyr i’r rhwyd ar ôl 87 munud i gau pen y mwdwl ar y gêm.

Doedd Gareth Bale ddim wedi’i gynnwys yn y tîm i ddechrau’r gêm, ond fe ddaeth i’r cae oddi ar y fainc ar ôl 64 munud.

Ar ôl hynny, daeth hanner cyfleoedd i Emyr Huws ac Aaron Ramsey ond doedd ei ddylanwad ddim yn ddigon i wyrdroi’r gêm.

Bydd Cymru’n herio Slofacia ar Fehefin 11 yn eu gêm gyntaf yn Ewro 2016.