Mae naw o wleidyddion sydd wedi dal swydd Ysgrifenydd Cymru wedi arwyddo llythyr yn cefnogi’r ymgyrch tros i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r gwleidyddion Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd am weld pleidleiswyr yn bwrw’u croes tros barhau’n rhan o Ewrop yn y refferendwm a gynhelir ar Fehefin 23.

Mae’r llythyr yn dadlau y byddai ffermwyr Cymru’n diodde’ o ganlyniad i adael Ewrop, ynghyd â phrifysgolion a busnesau sy’n dibynnu ar fasnachu fel rhan o’r farchnad sengl.

Pwy sydd i mewn, felly?

Alun Cairns a Steven Crabb (Ceidwadwyr); Peter Hain, Paul Murphy, Alun Michael a Ron Davies (Llafurwyr); William Hague, David Hunt a Nic Edwards (tri Cheidwadwr arall).

Pwy sydd heb arwyddo?

David Jones a Cheryl Gillan, Ceidwadwyr sy’n aelodau amlwg o’r garfan ‘Leave. Dydi’r cyn-Ysgrifennydd Torïaidd arall, John Redwood, chwaith ddim wedi torri ei enw ar waelod y llythyr.