Alun Davies (Llun Cynulliad)
Mae Gweinidog newydd Cymru dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi dweud nad yw’r ffaith ei fod yn ‘Weinidog’ ac nid ‘Ysgrifennydd’ yng nghabinet Cymru, yn mynd i gael effaith ar ei allu yn y swydd.
“I bob un sy’n becso am statws o unrhyw fath mewn Cabinet, buaswn i’n dweud wrthyn nhw fy mod i’n weinidog llawn amser yn gweithio ar ran y Gymraeg yn y llywodraeth,” meddai Alun Davies.
Ac mewn sgwrs â golwg360 ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, fe ddywedodd fod ganddo “weledigaeth glir” am sut y dylai’r Gymraeg ddatblygu dros y pum mlynedd nesaf.
Ond er hynny, roedd yn gwrthod gosod unrhyw dargedau clir, gan bwysleisio ei fod yn newydd iawn i’r swydd.
‘Lle i’r Gymraeg’
“Dwi isie sicrhau bod gennym ni le i’r Gymraeg, dim jyst ar faes Eisteddfod yr Urdd, ond ar y stepen drws, yng nghartrefi pobol ar draws Cymru,” meddai.
“Mae hynny’n meddwl bod gan blant y cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a wedyn bod ein cymdeithas ni yn cael cyfle i weithio yn y Gymraeg ac yn cael sgiliau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Dywedodd ei fod am creu Cymry dwyieithog, a nid disgyblion sydd yn “gallu pasio arholiad yn unig” ac yn methu â siarad yr iaith wedyn.
“Rydyn ni’n gwybod ein bod ni ddim yn creu Cymry Cymraeg newydd ar hyn o bryd, ry’n ni gyd yn deall hynny,” meddai.
Dim addewid am arian Twf
Doedd Alun Davies ddim am ddweud os yw’n bwriadu rhoi rhagor o arian i’r gwasanaeth Cymraeg o’r crud, Cymraeg i Blant, sydd wedi dod yn lle gwasanaeth Twf, er ei fod yn dweud bod angen y gwasanaeth ledled Cymru.
Mae nifer o weithgareddau Twf wedi gorfod dod i ben Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd a Môn, a hynny am fod y cynllun newydd yn gorfod gwneud y tro â £200,000 yn llai o arian.
“Dim ond diwrnod dwi wedi cael yng Nghaerdydd ers gael fy mhenodi, pan dwi’n mynd yn ôl i Gaerdydd yr wythnos nesaf, be dwi’n mynd i wneud yw eistedd i lawr gyda Kirsty Williams a gweinidogion eraill i weld sut ydyn ni’n darparu’r gwasanaethau yma.”