Lois Llywelyn Williams â'i medal
Disgybl chweched dosbarth o Ben Llŷn sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016 eleni – gan drechu’i chwaer hŷn.

Daeth Lois Llywelyn Williams o Forfa Nefyn i’r brig o dan y ffugenw ‘Efa’, gyda gwaith oedd yn tynnu cymhariaeth rhwng afal Efa a chwmni Apple.

Ei chwaer Mared Llywelyn Williams ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth, a Miriam Elin Jones o gylch Aberystwyth oedd yn ail.

‘Meistr ar weithio delweddau’

Dywedodd y beirniaid Manon Steffan Ros a Iola Ynyr bod y gwaith buddugol yn dangos dylanwad amlwg drama ‘Y Tŵr’ gan Gwenlyn Parry.

Ychwanegwyd bod Lois Llywelyn, sydd yn 18 oed, yn “feistr ar weithio ar ddelweddau theatrig yn gynnil gan osod sialens synhwyrol i gynulleidfa”.

Diolchiadau

Mae Lois Llywelyn Williams yn aelod o Aelwyd Chwilog ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Botwnnog.

Bellach mae hi’n astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac yn gobeithio mynd ymlaen i astudio Ffrangeg yn y brifysgol yn ogystal â chynnal ei diddordeb mewn theatr.

Mi ges i fy ysgogi i ddechrau sgriptio o ddifri gan Aled Jones Williams oedd yn diwtor ar gynllun O Sgript i Lwyfan Cwmni’r Frân Wen,” meddai.

“Ond hoffwn ddiolch am yr ysbrydoliaeth ydw i wedi ei gael gan fy holl athrawon yn yr ardal; Nia Plas yn Ysgol Morfa, Delyth Roberts a Bethan Mair yn y coleg ac yn arbennig i Esyllt Maelor a Mair Gruffydd am eu holl arweiniad.”