Mae Heddlu Gwent bellach wedi cadarnhau fod dyn 65 oed o ardal Tredegar wedi marw mewn ‘digwyddiad diwydiannol’ ar heol Mason, Trefynwy yr wythnos diwethaf.

Bu farw David Llewellyn yn y fan a’r lle wedi’r digwyddiad ar ddydd Mercher, Mai 25.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle tua 12.34yp.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Gwent a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau, wrth iddyn nhw geisio canfod amgylchiadau’r digwyddiad.