Ymwelwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint
Ar ddydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint, daeth 20,573 i ymweld â’r maes, gyda’r tywydd braf yn denu’r nifer fwyaf ers cynnal yr Eisteddfod yn Eryri yn 2012.
Daeth 24,521 o bobol i faes Glynllifon y flwyddyn honno, ar ail ddiwrnod yr ŵyl.
Daeth bron i 1,500 yn fwy o bobol i’r maes heddiw nag a ddaeth ddoe (Dydd Llun), gyda’r ffigwr yn 18,935.
Ar ddydd Mawrth yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili’r llynedd, 20,156 ddaeth i ymweld a’r maes, tra daeth 20,203 yn Eisteddfod Meirionnydd yn 2014.
Bu dathliadau pen-blwydd Mistar Urdd yn 40 oed ar faes yr Eisteddfod, gyda gorymdaith fawr o gwmpas y maes.
Ac yn seremoni wobrwyo Medal y Dysgwyr, Megan Elias, o Hen Golwyn, Sir Conwy, ddaeth i’r brig.
Neges Llywydd y Dydd, y Barnwr Nic Parry, oedd bod angen cydnabod rhieni di-Gymraeg yn y sir sy’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg.