Mistar Urdd yn cael ei dywys ar y maes gan Dona Direidi a Ben Dant
Bu dwsinau o bobol yn gorymdeithio ar Faes Eisteddfod yr Urdd Fflint heddiw i ddathlu pen-blwydd Mistar Urdd yn 40 oed.
Fe wnaeth y dathliadau gloi ar lwyfan y Pafiliwn gyda Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, yn cyflwyno cerdd i’r eicon, sydd wedi tyfu’n “arwr plant Cymru” erbyn hyn.
Fe ymunodd sawl cymeriad arall sydd yn adnabyddus i blant Cymru yn y dathliadau hefyd, gan gynnwys Dona Direidi, Ben Dant a Sali Mali.
Cafodd Mistar Urdd ei ddyfeisio fel mascot i’r mudiad gan Swyddog Cyhoeddusrwydd y mudiad ar y pryd, Wynne Melville Jones.
Pedwar degawd yn diweddarach, mae dal mor boblogaidd ag erioed ymysg plant Cymru ac yn symbol adnabyddus o’r mudiad ieuenctid a’r ŵyl.