Mae Uned Heddlu Pêl-droed y Deyrnas Unedig wedi anfon llythyron at 87 o gefnogwyr o Gymru sydd wedi’u gwahardd gan eu hysbysu fod yn rhaid iddyn nhw ildio eu pasborts cyn dydd Mercher, Mehefin 1.

Daw hyn 10 diwrnod yn union cyn i bencampwriaeth Ewro 2016 ddechrau yn Ffrainc.

“Rydym am sicrhau bod cefnogwyr yn cael profiad braf a diogel yn Ewro 2016,” meddai Steve Furnham, Uwch Arolygydd Heddlu De Cymru.

Esboniodd os na fydd y rhai sydd wedi’u gwahardd yn cyflwyno’u pasborts i’r heddlu, fe allen nhw wynebu risg o gael eu harestio.

“Yn anffodus, mae yna garfan fechan o bobol sy’n cymryd rhan mewn trais a chamymddwyn yn ymwneud â phêl-droed,” meddai.

“Mae’r gwaharddiadau hyn yn cael eu cyflwyno i sicrhau bod y cefnogwyr sy’n dilyn y gyfraith yn medru mwynhau Ewro 2016 yn ddiogel.”

Yn ogystal, ni fydd modd casglu’r pasborts tan ddiwedd y twrnament – beth bynnag fydd canlyniad Cymru.

Mae gwaharddiadau o’r fath yn cael eu rhoi gan y llysoedd pan fydd rhywun wedi’i gyhuddo o drosedd yn ymwneud â phêl-droed, ac maen nhw’n medru parhau am o leiaf tair blynedd.