Joe Ledley'n dawnsio gyda charfan Cymru wedi iddyn nhw sicrhau eu lle yn Ewro 2016 (llun:CBDC)
Mae Chris Coleman wedi enwi Joe Ledley yng ngharfan Cymru ar gyfer Ewro 2016, er gwaethaf ansicrwydd ynglŷn â’i ffitrwydd cyn i’r twrnament ddechrau mewn deg diwrnod.
Ond mae Emyr Huws, Wes Burns, Paul Dummett ac Adam Matthews wedi cael eu gadael allan, wrth i’r garfan derfynol gael ei docio i 23 o chwaraewyr.
Roedd Tom Lawrence, Adam Henley a Tom Bradshaw eisoes wedi gorfod tynnu nôl ag anafiadau, ond doedd dim disgwyl y bydden nhw’n cael eu cynnwys yn y 23 beth bynnag.
Ac mae disgwyl i brif sêr y garfan gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ashley Williams a Joe Allen i gyd fod yn ffit ar gyfer gêm agoriadol y tîm yn yr Ewros yn erbyn Slofacia ar 10 Mehefin.
Siom i Huws
Dim ond saith amddiffynnwr y mae Coleman wedi’i ddewis, a hynny’n golygu nad oedd lle i Dummett na Matthews yn y grŵp terfynol fydd yn teithio i Ffrainc.
Mae’r rheolwr hefyd wedi gadael y chwaraewr canol cae Emyr Huws ar ôl, gyda Dave Edwards a David Vaughan yn cael eu dewis yn ei le.
Wes Burns yw’r pedwerydd chwaraewr i gael ei docio o’r garfan estynedig, ond roedd hynny i’w ddisgwyl gan mai fo oedd yr unig un yn y grŵp oedd eto i ennill ei gap cyntaf.
Deg diwrnod i fynd
Bydd y chwaraewyr nawr yn ymgynull unwaith eto yng Nghaerdydd nos Fawrth, a hynny ar ôl treulio’r wythnos diwethaf ym Mhortiwgal, cyn hedfan i Sweden ar gyfer gêm gyfeillgar ddydd Sul 5 Mehefin.
Yna fe fyddan nhw’n hedfan yn syth i’w gwersyll yn Dinard, Llydaw, ble byddan nhw’n treulio’u hamser rhwng y gemau grŵp yn erbyn Slofacia, Lloegr a Rwsia.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae mewn rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol ers Cwpan y Byd 1958 – er i’r tîm gystadlu yn rownd wyth olaf Pencampwriaethau Ewrop pan oedd ffurf wahanol ar y gystadleuaeth.
Carfan Cymru ar gyfer Ewro 2016
Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams
Chris Gunter, Jazz Richards, Ashley Williams, James Collins, James Chester, Ben Davies, Neil Taylor
Joe Allen, Joe Ledley, Andy King, Aaron Ramsey, Dave Edwards, Jonathan Williams, David Vaughan, George Williams
Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Simon Church, David Cotterill