Joe Ledley
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud bod y chwaraewr canol cae Joe Ledley yn haeddu ei le yn y garfan ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc.
Er y gallai Ledley fethu dechrau’r gystadleuaeth ar ôl torri ei goes tra’n chwarae i Crystal Palace, mae Coleman wedi dweud wrth gyhoeddi’r garfan fod angen “carfan gytbwys sy’n barod ar gyfer yr her o’n blaenau”.
Dywedodd wrth y wasg oedd wedi ymgynull ym Mro Morgannwg: “Mae Joe Ledley yn edrych yn dda iawn – mae e am fod yn rhan o’r cyfan.
“Y ffordd ry’n ni’n edrych ar Ledley yw fod gyda ni’r wythnos hon a’r wythnos nesaf i’w asesu fe. Allwn ni ddim dweud ar hyn o bryd y bydd e’n barod.
‘Ennill y frwydr’
“Mae e’n ennill y frwydr o ran gwella ac mae e mewn cyflwr da. Gyda’r math yma o anaf, all y tîm meddygol ddim dweud unrhyw beth â sicrwydd. Ond ry’n ni’n credu ei fod e mewn sefyllfa dda ar gyfer y gêm gyntaf.
“Mae angen rhywfaint o lwc. O’r amser y cafodd e’r anaf, mae e wedi bod yn dda iawn.
“Mae e’n dda iawn ar hyn o bryd ac mae e’n bositif iawn. Dydy hyn ddim yn golygu bod unrhyw sicrwydd.”
Dywedodd Coleman ei fod e wedi cael ei ddylanwadu gan y ffaith fod posibilrwydd y gallai Ledley ddychwelyd cyn diwedd y tair gêm yn y grŵp.
“Tasen ni’n rhywun fel yr Almaen neu Sbaen, gallen ni ddweud na fyddai e’n barod ar gyfer y grwpiau [a’i adael e allan] ond dydyn ni ddim wedi bod mewn twrnament mor fawr ers 1958.
“Ar hyn o bryd, mae e i mewn, ac mae e’n edrych yn addawol. Yn y ddwy flynedd diwethaf, mae e wedi gwneud yn dda iawn ar y cae ac oddi arno.”
Siom i rai
Cadarnhaodd Chris Coleman ei fod e wedi rhoi gwybod i’r chwaraewyr ddydd Sul ym Mhortiwgal pwy fyddai yn y garfan, a’i fod e wedi dweud wrthyn nhw’n unigol wyneb yn wyneb.
“Mae’n well gyda fi eistedd gyda nhw a dweud wrthyn nhw. Dyw’r newyddion ddim yn rhywbeth dwi eisiau rhoi i’r un ohonyn nhw. Pan y’ch chi’n siarad am rywbeth mor fawr, mae’n anodd.
“Doedd y sgwrs ddim yn rhywbeth ro’n i’n edrych ymlaen ati o gwbl.”
Ond fe ddywedodd ei fod yn deall ymateb y rhai na chawson nhw eu cynnwys.
“Does dim ots sut fydden nhw wedi ymateb, byddwn i wedi deall. Dyw pawb ddim yn gallu bod yn rhan o’r peth.
“Hyn a hyn o chwaraewyr sy’n gallu dod gyda ni. Roedd yna sgyrsiau anodd. Do’n i ddim yn disgwyl iddyn nhw fod yn hapus ond dyna natur y sefyllfa ry’n ni ynddi.”
‘Neb wedi gwneud unrhyw beth o’i le’
Wrth egluro’i benderfyniadau, fe ddywedodd fod absenoldeb Adam Matthews oherwydd anaf yn golygu bod rhai amddiffynwyr eraill wedi cael cyfle i serennu.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn gyson ac maen nhw’n haeddu bod yno. Dydyn nhw [y rhai sydd allan] ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le.”
Dim lle i Emyr Huws
Dywedodd fod Emyr Huws yn “ifanc ac wedi cael ychydig o brofiad”, ond ei fod e “mewn cwmni da yng nghanol cae”.
“Fydden i ddim yn cael unrhyw noson ddi-gwsg tasai Emyr gyda ni. Ond fe wnaeth Dave Edwards yn dda yn erbyn Israel a Chyprus, ac mae ganddo fe brofiad o chwarae mewn amryw safleoedd.”
Mae pryderon ar hyn o bryd am ffitrwydd Hal Robson-Kanu ond mae Coleman yn ffyddiog y bydd yn holliach erbyn dechrau’r gystadleuaeth.