Nic Parry, llywydd y dydd
Mae Llywydd y Dydd ar ddydd Mawrth Eisteddfod Sir y Fflint yn gofyn heddiw a yw rhieni di-Gymraeg yr ardal yn cael eu cymryd yn ganiataol?

Neges y Barnwr, Nic Parry, sy’n lleol i’r ardal, i bobol Cymru yw cydnabod y “dyled” sydd i rieni di-Gymraeg am anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg.

“Y neges dwi am ei rhoi heddiw yw maint dyled y sir yma i rieni di-Gymraeg sy’n anfon eu plant i gael addysg Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Mae o’n gam mawr o ffydd, mae’n ymroddiad ac mae’n rhaid i ni eu cydnabod nhw. Fyddai ddim gŵyl yma oni bai amdanyn nhw achos bydda’ ysgolion Cymraeg ddim yma hebddyn nhw.

“A’r cwestiwn dwi’n gofyn ydy, ydan ni’n eu cymryd nhw’n ganiataol? Ydan ni’n gwneud digon? Faint o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario i’w cefnogi nhw i fod yn rhan o’r bywyd maen nhw’n cyflwyno i’w plant nhw?”

Dywedodd hefyd fod “chwyldro” wedi digwydd ers i Eisteddfod yr Urdd ddod i’r Fflint y tro diwethaf yn 1969, a hynny am ddyfodiad addysg Gymraeg.

Gwyliwch y cyfweliad llawn â Nic Parry isod: