Yr haul yn denu 18,935 o ymwelwyr i Eisteddfod yr Urdd ar ei diwrnod cyntaf yn Sir y Fflint
Daeth 18,935 o bobol i Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint heddiw, wrth i’r tywydd braf ddenu ymwelwyr i’r ardal.
Dyna oedd y nifer uchaf ers Eisteddfod Eryri yn 2012, pan ddenwyd dros 23,913 i faes Glynllifon ar y diwrnod cyntaf.
Daeth bron i 1,500 yn fwy o bobol i’r maes ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl ieuenctid eleni nag a ddaeth i’r Eisteddfod y llynedd yng Nghaerffili, a ddenodd 17,508.
Ac yn 2014, fe aeth 18,246 i faes Eisteddfod yr Urdd ym Meirionnydd ar y dydd Llun.
Bu llawer yn digwydd ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl yn y Fflint, y cystadlu ar y llwyfan, lansio Sgwrs Urdd 2022, cyhoeddi enillwyr y prif wobrau celf a chyhoeddi’r prif gyfansoddwr.
Daeth neges gan Lywydd y Dydd, Caryl Parry Jones, hefyd, yn galw ar Gymru i beidio ag ‘anwybyddu’r’ sir ar ôl i wythnos yr Eisteddfod ddod i ben.